Dirprwy Gadeirydd ac Aelod o’r Asiantaeth Safonau Bwyd
Mae Gweinidogion Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn bwriadu penodi Dirprwy Gadeirydd ac aelod o’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae penodiad y Dirprwy Gadeirydd yn benodiad ar y cyd rhwng Gweinidogion yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Mae gan yr ASB gylch gwaith statudol i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â diogelwch a safonau bwyd.
Fel Dirprwy Gyfarwyddwr/Aelod o’r ASB, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei dyletswyddau statudol. Byddwch hefyd yn gosod ac yn atgyfnerthu gwerthoedd craidd yr ASB trwy ddatblygu a monitro amcanion, cynlluniau a pholisïau strategol.
Bydd gofyn i chi gyfrannu’n effeithiol yng Nghyfarfodydd y Bwrdd, a chymryd rhan mewn un neu fwy o Bwyllgorau’r Bwrdd, yn ogystal â chynrychioli’r ASB wrth gyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol.
Yn ogystal â’r uchod, ar gyfer rôl y Dirprwy Gadeirydd, byddwch yn:
• dirprwyo yn ôl yr angen ar ran y Cadeirydd gan ysgwyddo’i holl gyfrifoldebau
• gweithredu fel cyfryngwr rhwng y Cadeirydd ac aelodau’r Bwrdd, gan sicrhau cyfathrebu effeithiol, meithrin trafodaeth agored a helpu aelodau’r Bwrdd i ymgymryd yn llwyr â’u dyletswyddau
• darparu cefnogaeth a meithrin cysylltiadau cynhyrchiol rhwng aelodau gweithredol ac anweithredol y Bwrdd
Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer rôl y Dirprwy Gadeirydd neu rôl fel aelod o’r Bwrdd, mae’n rhaid i chi fod â phrofiad o weithio gyda neu ar ran y cyhoedd, ynghyd â’r gallu i gynrychioli buddiannau defnyddwyr.
Bydd gennych hanes cryf ar draws eich gyrfa o gyflawni’n sylweddol ar lefel uwch, ynghyd â’r gallu i weithredu’n effeithiol fel rhan o dîm ar fwrdd corff cyhoeddus cenedlaethol. Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu bod yn graff eu barn, a’u bod yn gallu dadansoddi ystod eang o wybodaeth yn feirniadol a gwneud penderfyniadau strategol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn ogystal, mae angen sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol arnoch, gyda’r gallu i ennill hyder cydweithwyr yn eich sefydliad a’i randdeiliaid.
Ar gyfer rôl y Dirprwy Gadeirydd, rhaid i chi fod â’r canlynol:
• y gallu i gadeirio cyfarfodydd bwrdd sefydliad cenedlaethol o bwys, a chefnogi a chynnal bwrdd effeithiol sydd â gwerthfawrogiad cadarn o drefniadau llywodraethu da
Ar gyfer y rôl fel aelod o’r Bwrdd, nid yw’n hanfodol, ond rydym yn croesawu ymgeiswyr sydd â chefndir mewn data neu ddeallusrwydd artiffisial (AI).
Rhoddir tâl i’r Dirprwy Gadeirydd ar y gyfradd safonol o £14,000 am ymrwymiad amser o 35 diwrnod y flwyddyn. Mae aelodau’n cael eu talu ar gyfradd safonol o £8,000 am ymrwymiad amser o 20 diwrnod y flwyddyn. Mae gweinidogion wedi pennu hyd y penodiad, a all fod hyd at uchafswm o 3 blynedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r wefan Penodiadau Cyhoeddus:
https://publicappointments.cabinetoffice.gov.uk/8961 ar gyfer rôl y Dirprwy Gadeirydd a https://publicappointments.cabinetoffice.gov.uk/9091 ar gyfer rôl yr aelod. Os oes angen fformat arall arnoch, ffoniwch Jessie Rourke ar 0113 254 5321 neu Zubeda Seedat ar 0207 210 5352 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 8961 ar gyfer rôl y Dirprwy Gadeirydd a 9091 ar gyfer rôl yr aelod.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, ddydd Llun, 27 Gorffennaf 2026.
Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo amrywiaeth. Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion dawnus o bob cefndir ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae byrddau cyrff cyhoeddus yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn adlewyrchu amrywiaeth safbwyntiau’r gymdeithas y maent yn ei gwasanaethu.
We strongly recommend that you do not provide your bank account details when applying for a job. If you see a vacancy on Women's Equality Jobsite requesting bank account details please email webmaster@womensequality.co.uk