-------------------------------------------------------
Swyddog Cymorth Arolygiaeth Gofal Cymru x5 - Cymorth Tîm
Dyddiad cau: 15/06/2026, 16:00
Union gyflog cychwynnol: £27,302
Ystod cyflog neu fand cyflog: Cymorth Tîm £27,302 i £29,291
Patrwm Gwaith: Llawn amser (croesewir ceisiadau gan bobl sy’n gweithio rhan-amser, fel rhan o rannu swydd neu sy’n gweithio’n llawn amser)
Hyd: Cyfnod penodol hyd at 12 mis gyda'r posibilrwydd o swydd barhaol.
Lleoliad (au): Ledled Cymru
Pwrpas y swydd
AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.
Diben AGC yw annog gwaith i wella gwasanaethau cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol drwy reoleiddio, arolygu, adolygu a rhoi cyngor proffesiynol. Mae AGC yn cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru. Rydym yn rhan o Grŵp y Prif Swyddog Gweithredol yn Llywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r Tîm Arolygu, y Tîm Cymorth Cofrestru neu'r Tîm Gwasanaethau Cymorth i gyflawni amrywiaeth o dasgau gweinyddol ac yn eu helpu i gyflawni eu hamcanion busnes corfforaethol.
Tasgau Allweddol
• Darparu cymorth gweinyddol a digidol cyffredinol; gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf a/neu ail bwynt cyswllt ar gyfer galwadau a negeseuon e-bost, yn dibynnu ar ba dîm y cewch eich paru ag ef. Cofnodi a dosbarthu negeseuon e-bost sy'n dod i mewn ac yn mynd allan; cynnal cofnodion mewnol yn ôl yr angen;
• Monitro blychau post y tîm, gan brosesu a chyfeirio ymholiadau at gysylltiadau perthnasol yn AGC a Llywodraeth Cymru am ragor o wybodaeth fel y bo'n briodol neu eu cyfeirio'n allanol at bartneriaid a sefydliadau eraill.
• Trefnu cyfarfodydd mewnol yn ôl yr angen, rheoli'r defnydd o Microsoft Teams ac ystafelloedd cyfarfod/cyfweld ar y safle (lle bo angen), cymryd cofnodion a dosbarthu papurau.
• Helpu i goladu dogfennau sy'n gysylltiedig â chofrestru neu arolygu, gan sicrhau y caiff cofnodion eu mewnbynnu a'u cynnal yn gywir.
• Helpu'r swyddfa i gynhyrchu adroddiadau arolygu, adolygu a chofrestru, monitro'r gwaith o gyflawni'r amserlen statudol ar gyfer cyhoeddi, a rheoli'r broses o gynhyrchu adroddiadau gan gynnwys prosesu geiriau, fformatio a dosbarthu adroddiadau;
• Darparu cymorth pwynt cyswllt cyntaf/ail bwynt cyswllt i AGC, gan ddarparu gwasanaeth dwyieithog i'r cyhoedd a chwsmeriaid mewnol lle y bo'n bosibl, a derbyn ac ymateb i ymholiadau a phryderon cyffredinol ac ymholiadau a phryderon sy'n ymwneud ag arolygiadau. Os na allwch ddatrys yr ymholiad, sicrhau y caiff eitemau eu dirprwyo a'u trosglwyddo i'r tîm/arolygydd perthnasol er mwyn iddo ymateb iddynt.
• Defnyddio system rheoli achosion AGC i ymateb mewn ffordd sensitif a chyfrinachol wrth gydnabod pryderon a hysbysiadau; gan gynnwys rhoi cymorth yn ystod camau gorfodi dan gyfarwyddyd Rheolwr Cyswllt AGC;
• Defnyddio system rheoli achosion AGC i fewnbynnu data cywir ac amserol. Cadarnhau cywirdeb manylion cyswllt cyn cyfathrebu â darparwr. Hysbysu'r tîm perthnasol am broblemau sy'n codi wrth ddefnyddio'r gronfa ddata pan na all eu datrys;
• Rhoi cymorth i gydweithwyr yn nhîm y Prif Arolygydd a thîm ehangach yr Uwch-reolwyr, a chyflenwi yn eu lle, yn ôl yr angen.
• Cynnal cyfrinachedd ym mhob agwedd ar eich gwaith, gan gynnwys trin gwybodaeth gyfrinachol.
• Cynnal systemau ffeilio electronig (iShare), caniatadau, a rheolaethau dogfennau i safonau uchel o ran llywodraethu gwybodaeth.
• Rheoli eich datblygiad proffesiynol eich hun a cheisio cyfleoedd priodol gan drafod â'r rheolwr llinell.
• Unrhyw ddyletswyddau gweinyddol eraill y gall fod angen eu cyflawni ar gais y rheolwr llinell.
We strongly recommend that you do not provide your bank account details when applying for a job. If you see a vacancy on Women's Equality Jobsite requesting bank account details please email webmaster@womensequality.co.uk